Caiff yr haid ei greu a’i gynnal trwy gyfrwng strwythur cymdeithasol cadarn. Dim ond un ffactor diddorol ymhlith nifer yw hierachiaeth y gwenyn.

Yr Haid

Y Famwenynen

  1. Dim ond un frenhines sydd mewn haid a dim ond hi sydd ag ofariau sydd wedi llawn ddatblygu.
  2. Gall hi fyw am 3-5 mlynedd, a bydd yn paru unwaith â nifer o wenyn segur gwryw ac yn parhau’n ffrwythlon gydol ei hoes.
  3. Bydd hi'n hyd at 2,000 o wyau bob dydd.
  4. Bydd y wyau ffrwythlon yn datblygu’n wenyn gweithio benywaidd a’r rhai sydd heb eu ffrwythloni yn wenyn segurn gwryw .
  5. Pan fydd y frenhines yn marw neu yn dod yn anghynhyrchiol, bydd y gwenyn eraill yn “creu” mamwenynen newydd trwy ddewis larfa ifanc a’i fwydo â “jeli brenhinol”.

Gwenyn Gweithio

  1. Gwenyn benywaidd yw pob un o’r gwenyn a ddaw o wyau ffrwythlon ond nid ydynt yn medru cenhedlu.
  2. Bydd y gwenyn gweithio yn byw am 4-9 mis yn ystod misoedd y gaeaf ond dim ond am 6 wythnos yn ystod tymor prysur yr haf (byddant yn gweithio mor galed nes ibyddant yn iddynt marw!)
  3. Mae bron pob un o’r gwenyn yn yr haid yn weithwyr – hyd at 30,000 o wenyn yn y gaeaf a thros 60,000 yn yr haf.
  4. Bydd y gweithwyr yn ymgymryd â thasgau yn eu tro yn ystod eu hoes, glanhawr: nyrs, adeiladwr, siopwr, ymgymerwr, a gard ac yna wedi 21 diwrnod casglwr bwyd, sef neithdar a phaill.
  5. Mae gan y gweithiwr golyn pigog sy’n ei lladd ar ô iddi bigo. Dim ond unwaith bydd hi’n pigo felly.

Gwenyn Segur

  1. Bydd gwenyn gwryw yn datblygu o wyau sydd heb eu ffrwythloni ac felly byddant yn cynnwys deunydd genetig y fam, sef y famwenynen, yn unig.
  2. Bydd y gwenyn gwryw hyn wrth law yn ystod misoedd yr haf, yn disgwyl i baru â mamwenynen wyryf.
  3. Mae gan y gwenyn segur organ cenhedlu pigog felly bydd yn marw wedi i hyn ddigwydd.
  4. Mae hyd at 3,000 o wenyn gormes yn yr haid.
  5. Nid yw’r gwenyn segur yn gallu pigo, a chânt eu bwrw ymaith o'r haid yn ystod yr hydref, oherwydd nid ydynt o unrhyw ddefnydd yn ystod y gaeaf.

Nid oes angen i chi fod yn wenynwr i helpu’r gwenyn. Yn syml, plannwch fathau penodol o blanhigion a llwyni yn eich gardd er mwyn helpu’r gwenyn wrth iddynt gasglu paill a neithdar sy’n hanfodol iddynt fedru goroesi. Hyd yn oed mewn tref brysur gall eich gardd fod yn nefoedd i’r gwenyn prysur!

Mae planhigion gwenyn-gyfeillgar yn edrych yn wych yn eich gardd hefyd! Wrth blannu’r math cywir o goed a phlanhigion rydych yn creu twmpath o fwyd ar gyfer gwenyn mêl a pheillwyr eraill, a chynefinoedd i fywyd gwyllt. Mae peillio yn rhoi bwyd i ni a bywyd gwyllt eraill, o adar i bryfetach.

Mae Cymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA) wedi cynhyrchu rhestr sylweddol o blanhigion gwenyn-gyfeillgar y gellwch eu tyfu yn eich gardd neu alotiad. Cliciwch yma i lawrlwytho’r rhestr.

Dengys ymchwil bod gwenyn yn cael eu denu’n well i erddi sydd gydag amrywiaeth mwy eang o flodau gwenyn-gyfeillgar. Yn ogystal, mae pethau sylfaenol fel golau cywir a gosodiad eich gardd yn medru cael effaith mawr ar y nifer a’r mathau o wenyn sy’n cael eu denu. Defnyddiwch amrywiaeth o blanhigion yn eich gardd a pheidiwch â bod yn rhy daclus. Gadewch y planhigion sy’n blodeuo’n wyllt yn eu lle ac mae eiddew yn ffynhonnell bwysig o fwyd i’r gwenyn tuag at ddiwedd y gaeaf.

Cofiwch, dim ond ni sy’n trin chwyn fel chwyn! Mae gwenyn yn hoff iawn o ddant y llew a million gwyn. Gadewch lonydd i’r chwyn am gyfnod hirach na’r arfer. Cewch wared ohonynt wedi i’r blodau farw arnynt a chyn iddynt hadu.

Mae rhai rhywogaethau o wenyn yn nythu yn y ddaear. Gall tomwellt a gorchuddion atal chwyn olygu na all y gwenyn nythu. Unwaith eto, defnyddiwch orchudd naturiol ar gyfer eich gardd a byddwch yn fwy amyneddgar gyda’r chwyn!

Cofiwch mai dim ond gwenyn mêl benywaidd sy’n pigo a tydi’r gwenyn mêl Ewropeaidd a welwn yn y DU ddim yn un blin. Ceisiwch ddenu gwenyn i’ch gardd a pharhau i fwynhau eich barbeciw!

“Beth yw manteision gwenyn i ni?”

Peillio
Mae amaethyddiaeth yn dibynnu’n fawr iawn ar y gwenyn mêl i beillo. Gwenyn mêl sy’n gyfrifol am 80% o’r holl beillio a wneir gan bryfetach, gan gasglu tua 30 kilogram / 66 pwys o baill, fesul haid, bob blwyddyn. Heb y peillio hwn, buasai cyfanswm cynnyrch ein ffrwythau a’n llysiau yn llawer iawn llai.

Mêl
Mae sawl math, ac mae eu lliw a'u blas yn amrywio. Mae gwenyn yn cynhyrchu’r mêl o’r neithdar a gesglir ganddynt o flodau’r coed a phlanhigion, ac fe’i defnyddir ganddynt fel bwyd drwy gydol y flwyddyn. Mae gan fêl fendithion gwrthfacterol; gall bwyta mêl atal alergeddau.

Cŵyr Gwenyn
Wedi'i gynhyrchu o’r chwarennau, defnyddir cŵyr gwenyn yn cael ei ddefnyddio gan y gwenyn mêl i adeiladu’r diliau mêl. Defnyddir cŵyr gwenyn mewn cyffuriau, colur, deunyddiau artistiaid, llathrydd dodrefn ac esgidiau a chanhwyllau mewn eglwysi.

Propolis
Cesglir hwn gan y gwenyn mêl o goed, ac mae'n resin gludiog a gymysgir â chŵyr i wneud glud. Bydd y gwenyn yn defnyddio’r glud i drwsio holltau yn y cwch gwenyn. Defnyddir propolis yn y diwydiant iechyd a hefyd mewn farnis pren.

Jeli Brenhinol
Mae’r deunydd llaethog pwerus hwn yn troi gwenynen gyffredin yn famwenynen ac fe'i gweneir o baill wedi ei dreulio drwy’r corff ac a ddaw allan o chwarren o ben gwenynen. Mae’r jeli yn llawn fitamin B ac fe'i defnyddir fel atchwanegiad deietegol i hybu ffrwythlondeb. Mae’n eithriadol o ddrud (fel cafiâr!)

Medd
Medd yw’r ddiod hynaf y gwyddom amdani ac roedd yn boblogaidd iawn hyd at y 18fed ganrif. Math o win ydyw, yn felys gan amlaf, wedi ei wneud o fêl, dŵr a burum ac mae'n cynnwys tua 12-14% o alcohol.

Mae twf datblygiad trefol wedi cael effaith sylweddol ar niferoedd y gwenyn, gan leihau’r ardaloedd y gallent gasglu paill a neithdar. Gallwch helpu yn y frwydr o ddenu’r gwenyn y ôl i’r trefi a’r dinasoedd.

Nid oes angen i chi fod yn berchen tir neu fyw yn y wlad i gadw gwenyn. Mae gerddi trefol a thoeau yn lleoedd delfrydol ar gyfer haid – mae gan y Waldorf Astoria yn Efrog Newydd nifer o gychod gwenyn ar y to.

Neu rhentwch gwch gwenyn trwy eich cymdeithas gwenynwyr leol, yn union fel rhentu rhandir.

Os nad ydych yn dymuno cadw gwenyn, gellwch eu helpu trwy blannu gerddi gwenyn-gyfeillgar.

Mae gerddi trefol, gerddi ar doeau, rhandiroedd, parciau lleol a mannau agored oll yn denu gwenyn.

Yn ogystal ag ychwanegu lliw at ein strydoedd a’n cartrefi, mae basgedi crog hefyd yn denu pryfed peillio. Mae nifer o awdurdodau lleol bellach yn creu tirluniau gwenyn-gyfeillgar mewn parciau a strydoedd.

Rhowch gynnig ar un o'n Cyrsiau Cadw Gwenyn.