£60 y pen neu ragor
Edrychwch ar yr amrywiaeth o gyrsiau rydym ni’n eu cynnig
Bee Boles and Bee Houses Awdur: A.M. Foster Cyhoeddwr:
Shire Publications Ltd ISBN: 9780852639030
Collins Beekeeper’s Bible
ISBN 978-0-00-727989-0
Gwenyn ar gyfer Plant
Mae gennym ffeithiau anhygoel am wenyn mêl ar eich cyfer. Soniwch amdanynt wrth eich ffrindiau a’ch cyd ddisgyblion – mi fyddant wedi synnu eich bod yn gwybod cymaint!
Mae gwenynen fêl yn bryfetach gyda chorff mewn tair rhan: pen, thoracs ac abdomen. Mae ganddi dri phâr o goesau cymalog, teimlydd neu antenna, a dau bâr o adenydd fel arfer.
Mae gan y gwenyn mêl sgwrbwd caled ond yn wahanol i ni mae wedi ei leoli ar y tu allan i’r corff gyda thyllau ynddo ar gyfer anadlu.
Mae gan y wenynen fêl yn eich gardd nifer o nodweddion difyr:
Y tro nesa welwch chi wenyn mêl, cofiwch pa mor anhygoel ydi’r pryfetach bychan yma!
Mae gwenyn yn peillio oddeutu un rhan o dair o bopeth rydym ni’n ei fwyta, ac maent yn gwneud cyfraniad hanfodol at gynnal ein hecosystemau. Mae angen i fwy na ¾ y cnydau a dyfir i’w bwyta gan bobl gael eu peillio gan wenyn, ac mae gwenyn yn cyfrif am 80% o’r holl blanhigion a gaiff eu peillio gan bryfed. Maent yn cynnwys y rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau, llawer o gnau, a phlanhigion megis rêp a gaiff eu troi yn olew, a ffa coco, coffi a the. Yn ogystal â chnydau bwyd, mae cnydau porthi ar gyfer da byw a chnydau megis cotwm yn dibynnu ar beillio gan wenyn hefyd. O safbwynt economaidd, gallai peillio gan wenyn fod yn werth £200 miliwn yn y Deyrnas Unedig yn unig, a $170 biliwn yn fyd-eang.
Ond ni ellir mesur gwerth ariannol cyfraniad gwenyn at ecosystemau ledled y byd, na’n perthynas â hwy sy’n mynd yn ôl filoedd o flynyddoedd.
Mae gwenyn a phryfed peillio eraill yn wynebu cyfres o fygythiadau naturiol a rhai a grëwyd gan bobl. Heb waith gwenynwyr masnachol, a rhai sy’n amaturiaid yn benodol, gallai’r bygythiadau hyn beryglu eu goroesiad. Gall pawb – a chithau yn eu pltih – gyfrannu at helpu gwenyn i ffynnu.
Mae gwenyn a mêl wedi ymddangos yn helaeth mewn diwylliant a mytholeg trwy gydol hanes. Mae darluniau ogof a ganfuwyd yn Sbaen yn dyddio o tua 6000 CC yn darlunio casglwyr mêl yn dringo coed i gasglu mêl gwenyn gwyllt. Credir mai rhain yw rhai o’r darluniau cynharaf o bobl yn mentro’u bywydau i gasglu mêl. Mae darluniau tebyg hefyd wedi’u canfod yn yr India, Affrica, Asia ac Awstralia.
Er bod cadw gwenyn yn dyddio'n ôl o leiaf 4,000 mlynedd, cesglir mêl mewn sawl rhan o’r byd hyd heddiw trwy ddringo coed neu greigiau. Gallwn fod yn sicr fod pobl yn wastad wedi hoffi pethau melys, ac fe wnaent ymdrech fawr i ganfod mêl.
Mae gwenyn a mêl bod amser wedi’u cysylltu â ffrwythlondeb, ac roedd ganddynt le pwysig iawn yn yr Hen Roeg, ble darlunnid y Fam Dduwies bwysig Artemis fel hanner dynes a hanner gwenyn.
Roedd y Maiaid hefyd yn arbenigwyr ar gadw gwenyn, a chafodd y Sbaenwyr a ddaeth ar eu traws yn yr 16eg ganrif eu synnu o ganfod gwenynfeydd yn cynnwys rhwng mil a dwy fil o gychod gwenyn.
Roedd cymaint o barch i fêl, fe’i cynigid yn offrwm i'r Duwiau fel ambrosia. Roedd rhinweddau meddyginiaethol mêl yn adnabyddus, ac fe'i defnyddid fel antiseptig a chyffeithydd. Roedd mêl hefyd yn un o gynhwysion elîau, trwythau a diodydd cadarn.
Defnyddid cŵyr a mêl yn y broses mymïo, ac mae jariau yn cynnwys mêl wedi’u canfod ym mhyramidiau’r Aifft.
Adroddir hanes un jar a agorwyd, a’r darganfyddwyr yn canfod ei fod yn dal yn fwytadwy, nes iddynt sylwi fod gwallt yn y mêl!! Wrth edrych yn fanylach, gwelwyd fod y jar yn cynnwys corff plentyn wedi’i gadw’n gyfan yn y mêl!
Mae cŵyr yn gynnyrch pwysig arall a ddaw o’r cwch gwenyn. Roedd canhwyllau cŵyr gwenyn yn para’n hir a phrin oedd eu harogl, a daethant yn rhan hanfodol o wasanaethau eglwysig. Gallai’r mynaich ddiwallu’r angen cyson am ganhwyllau trwy ddod yn wenynwyr.
Un o'r Gwenynwyr enwocaf o blith y mynaich oedd y Brawd Adam o Abaty Buckfast, a ddatblygodd rywogaeth o wenyn sy'n werthfawr ledled y byd am eu tymer da a’u cynnyrch toreithiog o fêl.
Yn ystod y canoloesoedd, cedwid gwenyn mewn boncyffion wedi’u cafnu neu gawenni, a roddid mewn cilfachau mewn waliau o'r enw tyllau gwenyn. Credir fod y gair ‘skep’ (Saesneg am gawen) yn deillio o’r hen air Norseg 'skeppe’ oedd yn golygu basged.
Roedd casglu’r mêl yn golygu lladd yr haid trwy ei mygu â sylffwr llosg, ac ysgwyd y gawen i gael gwared ar y gwenyn marw. Gellir gweld tyllau gwenyn mewn hen waliau, ond erbyn hyn, mae sawl dull o'u defnyddio. Defnyddir rhai i gadw addurniadau gardd neu blanhigion mewn potiau, ac mae’r rhai mwyaf (silffoedd gwenyn) wedi’u defnyddio i gadw coed. Yn gyffredinol, roedd gan y cilfachau mewn waliau cerrig uchder o 18-30 modfedd (46-76 cm), lled o 15-26 modfedd a dyfnder o 14-21 modfedd (36-53 cm).
Mae gan IBRA (Cymdeithas Ryngwladol Ymchwil Cadw Gwenyn) gofnodion o dyllau gwenyn ac adeileddau cadw gwenyn eraill a adeiladwyd yn y gorffennol. Cychwynnwyd y gofrestr gan Dr Eva Crane yn 1952, a bellach mae’n cynnwys cofnodion ar bapur o dros 1540 o safleoedd, yn cynnwys nifer yng Nghymru.
Mae nifer o ‘enwau mawr’ ym myd cadw gwenyn (gall pob gwlad hawlio fod ganddi brif wenynwr) sydd wedi symud y grefft yn ei blaen mewn rhyw ffordd unigryw. Er enghraifft, fe wnaeth y Parchedig Charles Butler (1559-1647) ddisgrifio gwaith y gwenyn o fewn y cwch, sut i reoli heidiau a chasglu mêl yn ei gyfrol ‘The Feminine Monarchy’ (1623). Cyn hynny, credid yn gyffredinol mai gwenyn gwryw oedd yr holl weithwyr. Datblygodd Thomas Wildman y dull o bentyrru cawenni, y naill ar ben y llall. Fel hyn, gellid casglu’r mêl heb ladd y gwenyn. Fe wnaeth Francois Huber (1750-1831) ddyfeisio’r cwch gwenyn ‘dalennog’ a ganiataodd i wenynwyr archwilio fframiau, ac ef hefyd a ddisgrifiodd gylch bywyd gwenyn am y tro cyntaf.
Fodd bynnag, cychwynnodd dulliau modern o gadw gwenyn, lle cedwir gwenyn ar fframiau symudol a gedwir mewn blychau pren, tua 150 mlynedd yn ôl. Er bod sawl math o gwch gwenyn wedi’u dyfeisio yn y 18fed ganrif a’r 19eg, y Parchedig L. Langstroth o’r Unol Daleithiau sy’n cael ei gydnabod fel dyfeisydd cwch gwenyn ffrâm symudol effeithiol, ac mae dros 70% o’r cychod gwenyn a ddefnyddir heddiw yn seiliedig ar ei gynllun.
Mae gan Gonwy gysylltiad hir â chadw gwenyn, yn dyddio’n ôl 1,000 o flynyddoedd efallai, a gwelir tyllau gwenyn mewn waliau ym mhob rhan o Ddyffryn Conwy, ond yn union fel Meirionydd, mae'n debyg fod llawer iawn rhagor i'w canfod.
Yng Nghonwy, cynhelir Ffair Fêl flynyddol y dref o dan Siarter Frenhinol Tref Conwy, a roddwyd gan Edward I dros 700 mlynedd yn ôl. Mae cofnod o Edward yn prynu casgen o fêl yn y ffair yn 13eg ganrif.
Cynhelir Ffair Fêl Conwy ar Stryd Fawr y dref bob mis Medi, a daw gwenynwyr i werthu mêl, sebonau mêl, canhwyllau a llathrydd cŵyr gwenyn. Gall gwenynwyr lleol werthu tua thunnell fetrig o fêl erbyn amser cinio!
Yn 2011, fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol atgyweirio wal yn llawn tyllau gwenyn yn Neuadd Dolmelynllyn yng Nganllwyd, ger Dolgellau. Cyn atgyweirio’r wal, cofnodwyd yn swyddogol, 10 mlynedd yn ôl, fod ganddi 38 twll gwenyn, ond fel aeth y gwaith rhagddo, canfuwyd 8 twll arall, a dyma'r wal â'r nifer fwyaf o dyllau gwenyn yn y Deyrnas Unedig.
Ym mis Mai 2012, fe wnaeth Cymdeithas Hanes a Chofnodion Meirionnydd a Chymdeithas Gwenynwyr Meirionnydd gychwyn prosiect ar y cyd i ganfod tyllau gwenyn yn ardal Meirionnydd. Hyd yn hyn, yn ogystal â’r 9 safle a ganfuwyd yn flaenorol, maent bellach wedi canfod 2 safle eithriadol ychwanegol sydd â silffoedd gwenyn, ac mae rhagor o safleoedd anhysbys i'w harchwilio.
Mae pob math o wenyn yn perthyn i’r dosbarth o bryfetach a elwir yn Hymenoptera. Mae’r dosbarth hwn yn cynnwys rhyw 10,000 o rywogaethau gan gynnwys y gwenyn meirch, morgrug a’r llifbryf.
Mae'r rhan helaeth o rywogaethau gwenyn yn rywogaethau unigol, a byddant yn dodwy eu hwyau mewn twnneli a dyllir ganddynt. Bydd y gwenyn hyn yn darparu cyflwenwad o fwyd (mêl a phaill) ar gyfer larfau ond ni fydd y yw’r gwenyn yn eu llawn dwf yn bwydo'r larfau yn raddol.
Mae gwenyn mêl yn perthyn i’r teulu o wenyn cymdeithasol, sy’n cynnwys cacwn gwenyn digolyn trofannol o’r rhywogaeth Meliponinae.
Bydd gwenyn cymdeithasol yn nythu mewn nythfeydd a arweinir gan un wenynen ffrwythlon, y famwenynen, sef yr unig un sy’n dodwy fel arfer. Criw o wenyn benywaidd, y gweithwyr, sy’n casglu’r neithdar, bwydo’r frenhines a’r larfau. Cedwir y mêl a’r paill a megir y larfau mewn celloedd a ffurfir o gŵyr a gynhyrchir gan y gweithwyr.
Un rhywogaeth yw’r gwenyn mêl, Apis, a dyma yw tarddiad yr enw “apiary”, yn Saesneg, y nythfa. Nodweddion y nythfa yw’r broses o adeiladu cribau o gelloedd hecsagon â chŵyr a gynhyrchir gan y gweithwyr. Mae sawl pwrpas i’r celloedd, yn cynnwys magu’r larfau a storio’r mêl a’r paill. Y gwenyn ifainc sy’n bwydo’r larfau yn gyson â bwyd a gynhyrchir o’r chwarren ym mhen y wenynen, o fêl a phaill.
Mae ymddygiad y gwenyn mêl wrth iddynt gyfathrebu gwybodaeth ynglŷn â dod o hyd i fwyd yn bwysig iawn, a'u dull o orchymyn gwenyn eraill i chwilio am fwyd trwy “ddawnsio”. Mae rhoi gwybodaeth am gyfeiriad a phellter ffynonellau bwyd yn creu nythfa effeithiol a threfnus.
Un rhywogaeth yw gwenyn mêl y DU, Apis mellifera. Ein gwenyn cynhenid yw’r is-rywogaeth Apis mellifera mellifera o Ogledd Ewrop, sef gwenyn tywyll.
Mae’r gwenyn mêl yn gymdeithas drefnus a galluog iawn, a bydd gwahanol wenyn yn gyfrifol am swyddogaethau penodol yn ystod eu bywyd. Mae hyn yn cynnwys nyrsio, diogelu, glanhau, adeiladu, gwasanaethau'r mamwenyn, ymgymerwyr, casglwyr bwyd ayyb.
Mae hyd bywyd y gwenyn mêl yn amrywio hefyd, gan ddibynnu ar waith neu ddosbarth y gwenyn. Gall y frenhines fyw am nifer o flynyddoedd. Bydd y gweithwyr yn byw am 6 wythnos yn ystod tymor prysur yr haf, a rhwng pedwar a naw mis yn ystod misoedd y gaeaf.
Er mai dim ond yn yr haf yr ymddengys bod y gwenyn mêl yn brysur, y gwirionedd yw ei fod yn bodoli drwy gydol y flwyddyn, drwy glystyru am gynhesrwydd drwy’r gaeaf mewn tymheredd cyson o 93 gradd Fahrenheit yng nghanol y clwstwr.
Mae tri dosbarth o wenyn mêl : Mamwenyn, Gweithwyr Gwenyn Segur. Darllenwch mwy yn Y Cwch Gwenyn.
Caiff yr haid ei greu a’i gynnal trwy gyfrwng strwythur cymdeithasol cadarn. Dim ond un ffactor diddorol ymhlith nifer yw hierachiaeth y gwenyn.
Mae gan Gymdeithas Gwenynwyr Cymru tua 1,300 o aelodau cysylltiedig, sydd, o bosib, yn cynrychioli tua hanner yr holl wenynwyr yng Nghymru.
Gwenynwyr er difyrrwch yw’r rhan fwyaf. Dim ond tua 20 ohonynt sy'n “ffermwyr gwenyn” yn cadw dros 40 o gychod, a does dim mwy na 10 o gwennwr masnachol.
Cynrychiolir diddordebau’r gwenynwyr gan 19 o gymdeithasau cadw gwenyn ar hyd a lled Cymru. Bydd y rhan fwyaf ohonynt y cyfarfod yn aml ac yn cynnal cyrsiau ar gyfer y rhai profiadol a dibrofiad.
Gellwch ddarganfod rhagor am y cymdeithasau cadw gwenyn yng Nghymru ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol.
Ffurfiwyd Cymdeithas Gwenynwyr Conwy yn 1978 ac erbyn hyn mae ganddi fwy na 150 o aelodau. Mae’r Gymdeithas yn trefnu Ffeiriau Hadau a Mêl Conwy, a gynhelir ym mis Mawrth a Medi yn eu tro bob blwyddyn i godi arian ar gyfer yr elusen fyd eang Bees for Development.
Ar draws y Deyrnas Unedig mae tua 300 o ffermwyr gwenyn masnachol sy’n dibynnu ar gadw gwenyn am gyfran neu'r cyfan o'u hincwm. Mae tua 33,000 o bobl wrthi er difyrrwch hefyd.
Os hoffech ymuno â nhw, cliciwch yma i gael gwybod rhagor.
Mae gwenyn yn wynebu sawl bygythiad, i'r fath raddauy mae arbenigwyr yn credu y gallai rhai rhywogaethau ddiflannu’n llwyr. Mae effaith dyn yn factor amlwg ond nid dyma’r unig fygythiad.
Mae bygythiadau naturiol yn bodoli trwy widdon ac afiechydon, yn enwedig trwy’r gwiddonyn Varroa, a ddaeth yn wreiddiol o Ganol Asia.
Er y gall wenynwr penderfynol reoli’r gwiddonyn hwn, mae’r effaith ar boblogaeth y gwenyn mêl yn aml yn ddinistriol.
Ymhellach, mae afiechydon fel “Foul Brood” a “Nosema” yn dinistrio’r gwenyn. Ond, fel arfer, gall rheolaeth dda a meddyginiaeth gywir leddfu’r problemau hyn.
Yn llai uniongyrchol, mae ga ddyn ddylanwad sylweddol ar oroesiad y gwenyn. Mae datblygiad trefol efallai yn un rheswm dros ostyngiad yn y nifer o wenyn; gyda mwy a mwy o ddatblygiad trefol a thwf dinasoedd, ceir llai o ffynonellau bwyd ar gyfer y gwenyn. Fodd bynnag, mae bai hefyd ar ffermio dwys sy'n lleihau’r llystfiant naturiol sydd ar gael ar gyfer y peillwyr ac wrth i blaladdwyr gael eu defnyddio'n helaethach.
Bydd effaith plaladdwyr ar wenyn yn amrywio. Fel arfer, bydd plaladdwyr cysylltiol yn cael eu chwistrellu ar blanhigion gan ladd y gwenyn wrth iddynt gerdded ar wyneb y planhigyn. Mae plaladdwyr systematig, ar y llaw arall, yn cael eu hymgorffori yn y pridd neu ar hadau gan symud i fyny coes y planhigyn, ac yna i’r dail, i’r neithdar ac i’r paill.
Mae plaladdwyr neonicotinoid yng nghanol y ddadl ynglŷn â’r lleihad yn y nifer o wenyn. Mae’r grŵp eithaf newydd hwn o gemegolion synthetig yn perthyn i nicotin ac yn eithriadol o wenwynig i bryfetach. Defnyddir y cemegolion hyn i orchuddio hadau amaethyddol a byddant lledaenu trwy’r planhigyn ac i’r neithdar a’r paill a fwytir gan y wenynen. Mewn astudiaeth diweddar gan yr elusen ymchwil pryfetach Buglife a Chymdeithas y Pridd n cynigiwyd bod y neonicotinoidau hyn yn lled gyfrifol am y lleihad ym mhoblogaeth gwenyn.
Dros y ganrif ddiwethaf, bu gostyngiad o hyd at 97 y cant yn ein dolydd blodau gwyllt. Mae’r gallw am fwyd, datblygiadau technolegol ym myd amaeth a’r defnydd o blaladdwyr oll wedi cyfrannu at greu ‘anialdiroedd gwyrdd’ – ac mae’r effaith ar ein pryfed peillio wedi bod yn drychinebus.
Bellach, maent yn cael eu gwthio i’r eithafon yn llythrennol, ac maent yn dibynnu ar gloddiau, coed a blodau mewn gerddi i gael i neithdar a‘r paill y mae eu hangen arnynt.
Ond nid newydd drwg yw’r cyfan, a gallwn oll wneud newidiadau bychan a wnaiff helpu ein gwenyn gwarchaeëdig.
Mae 54% o drefi a dinasoedd Gwledydd Prydain yn fannau gwyrdd - parciau, rhandiroedd, meysydd chwaraeon ac ati. Mae gerddi tai yn cyfrif am 18% o’r cyfanswm, ac mae coetiroedd yn gorchuddio 12% o’r DU. Mewn gwirionedd, dim ond 2% o Wledydd Prydain sy’n cael ei ystyried yn ‘drefol’, felly mae digon o le am blanhigion, ond mae’n rhaid inni sicrhau fod rhagor o’r planhigion iawn.
Trwy blannu planhigion sy’n denu gwenyn yn eich hardd, gallwch wneud gwahaniaeth ymarferol go iawn, a thrwy gynllunio ychydig, gallwch gynnig gwerddon i bryfed peillio trwy gydol y flwyddyn.
Nid oes angen i chi fod yn wenynwr i helpu’r gwenyn. Yn syml, plannwch fathau penodol o blanhigion a llwyni yn eich gardd er mwyn helpu’r gwenyn wrth iddynt gasglu paill a neithdar sy’n hanfodol iddynt fedru goroesi. Hyd yn oed mewn tref brysur gall eich gardd fod yn nefoedd i’r gwenyn prysur!
Mae planhigion gwenyn-gyfeillgar yn edrych yn wych yn eich gardd hefyd! Wrth blannu’r math cywir o goed a phlanhigion rydych yn creu twmpath o fwyd ar gyfer gwenyn mêl a pheillwyr eraill, a chynefinoedd i fywyd gwyllt. Mae peillio yn rhoi bwyd i ni a bywyd gwyllt eraill, o adar i bryfetach.
Mae Cymdeithas Gwenynwyr Prydain (BBKA) wedi cynhyrchu rhestr sylweddol o blanhigion gwenyn-gyfeillgar y gellwch eu tyfu yn eich gardd neu alotiad. Cliciwch yma i lawrlwytho’r rhestr.
Dengys ymchwil bod gwenyn yn cael eu denu’n well i erddi sydd gydag amrywiaeth mwy eang o flodau gwenyn-gyfeillgar. Yn ogystal, mae pethau sylfaenol fel golau cywir a gosodiad eich gardd yn medru cael effaith mawr ar y nifer a’r mathau o wenyn sy’n cael eu denu. Defnyddiwch amrywiaeth o blanhigion yn eich gardd a pheidiwch â bod yn rhy daclus. Gadewch y planhigion sy’n blodeuo’n wyllt yn eu lle ac mae eiddew yn ffynhonnell bwysig o fwyd i’r gwenyn tuag at ddiwedd y gaeaf.
Cofiwch, dim ond ni sy’n trin chwyn fel chwyn! Mae gwenyn yn hoff iawn o ddant y llew a million gwyn. Gadewch lonydd i’r chwyn am gyfnod hirach na’r arfer. Cewch wared ohonynt wedi i’r blodau farw arnynt a chyn iddynt hadu.
Mae rhai rhywogaethau o wenyn yn nythu yn y ddaear. Gall tomwellt a gorchuddion atal chwyn olygu na all y gwenyn nythu. Unwaith eto, defnyddiwch orchudd naturiol ar gyfer eich gardd a byddwch yn fwy amyneddgar gyda’r chwyn!
Cofiwch mai dim ond gwenyn mêl benywaidd sy’n pigo a tydi’r gwenyn mêl Ewropeaidd a welwn yn y DU ddim yn un blin. Ceisiwch ddenu gwenyn i’ch gardd a pharhau i fwynhau eich barbeciw!
“Beth yw manteision gwenyn i ni?”
Peillio
Mae amaethyddiaeth yn dibynnu’n fawr iawn ar y gwenyn mêl i beillo. Gwenyn mêl sy’n gyfrifol am 80% o’r holl beillio a wneir gan bryfetach, gan gasglu tua 30 kilogram / 66 pwys o baill, fesul haid, bob blwyddyn. Heb y peillio hwn, buasai cyfanswm cynnyrch ein ffrwythau a’n llysiau yn llawer iawn llai.
Mêl
Mae sawl math, ac mae eu lliw a'u blas yn amrywio. Mae gwenyn yn cynhyrchu’r mêl o’r neithdar a gesglir ganddynt o flodau’r coed a phlanhigion, ac fe’i defnyddir ganddynt fel bwyd drwy gydol y flwyddyn. Mae gan fêl fendithion gwrthfacterol; gall bwyta mêl atal alergeddau.
Cŵyr Gwenyn
Wedi'i gynhyrchu o’r chwarennau, defnyddir cŵyr gwenyn yn cael ei ddefnyddio gan y gwenyn mêl i adeiladu’r diliau mêl. Defnyddir cŵyr gwenyn mewn cyffuriau, colur, deunyddiau artistiaid, llathrydd dodrefn ac esgidiau a chanhwyllau mewn eglwysi.
Propolis
Cesglir hwn gan y gwenyn mêl o goed, ac mae'n resin gludiog a gymysgir â chŵyr i wneud glud. Bydd y gwenyn yn defnyddio’r glud i drwsio holltau yn y cwch gwenyn. Defnyddir propolis yn y diwydiant iechyd a hefyd mewn farnis pren.
Jeli Brenhinol
Mae’r deunydd llaethog pwerus hwn yn troi gwenynen gyffredin yn famwenynen ac fe'i gweneir o baill wedi ei dreulio drwy’r corff ac a ddaw allan o chwarren o ben gwenynen. Mae’r jeli yn llawn fitamin B ac fe'i defnyddir fel atchwanegiad deietegol i hybu ffrwythlondeb. Mae’n eithriadol o ddrud (fel cafiâr!)
Medd
Medd yw’r ddiod hynaf y gwyddom amdani ac roedd yn boblogaidd iawn hyd at y 18fed ganrif. Math o win ydyw, yn felys gan amlaf, wedi ei wneud o fêl, dŵr a burum ac mae'n cynnwys tua 12-14% o alcohol.
Mae twf datblygiad trefol wedi cael effaith sylweddol ar niferoedd y gwenyn, gan leihau’r ardaloedd y gallent gasglu paill a neithdar. Gallwch helpu yn y frwydr o ddenu’r gwenyn y ôl i’r trefi a’r dinasoedd.
Nid oes angen i chi fod yn berchen tir neu fyw yn y wlad i gadw gwenyn. Mae gerddi trefol a thoeau yn lleoedd delfrydol ar gyfer haid – mae gan y Waldorf Astoria yn Efrog Newydd nifer o gychod gwenyn ar y to.
Neu rhentwch gwch gwenyn trwy eich cymdeithas gwenynwyr leol, yn union fel rhentu rhandir.
Os nad ydych yn dymuno cadw gwenyn, gellwch eu helpu trwy blannu gerddi gwenyn-gyfeillgar.
Mae gerddi trefol, gerddi ar doeau, rhandiroedd, parciau lleol a mannau agored oll yn denu gwenyn.
Yn ogystal ag ychwanegu lliw at ein strydoedd a’n cartrefi, mae basgedi crog hefyd yn denu pryfed peillio. Mae nifer o awdurdodau lleol bellach yn creu tirluniau gwenyn-gyfeillgar mewn parciau a strydoedd.
Rhowch gynnig ar un o'n Cyrsiau Cadw Gwenyn.