Nid yw cadw gwenyn yn anodd ac mae sawl ffynhonnell o wybodaeth ar gael i’r rhai dibrofiad. Y ffordd orau i ddysgu yw gan wenynwyr profiadol a dylai’r rhai dibrofiad ymuno â’r gymdeithas cadw gwenyn leol a mynychu cwrs ar gadw gwenyn i ddechreuwyr. Neu, gallech hefyd fynychu ein cyrsiau sy’n rhoi blas i chi o'r hyn i’w ddisgwyl fel gwenynwr.
Mae nifer o lyfrau ar gael ar gadw gwenyn, ac mae rhai ohonynt ar werth yn ein Canolfan Ymwelwyr. Yn ogystal, mae nifer o gylchgronnau cadw gwenyn ac adnoddau ar-lein a gael.
The BBKA Guide to Beekeeping, 2nd Edition, by Ivor Davis and Roger Cullum-Kenyon, 2016
Haynes - The Bee Manual: The Complete Step-by-Step Guide to Keeping Bees, by Adrian and Claire Waring 2014
Y Gwenyn
Mae nifer o rywogaethau o wenyn wedi eu cludo i’r DU dros y blynyddoedd, am resymau dofder a faint o fêl a gynhyrchir. Er hyn mae croesfridio yn aml yn golygu bod nodweddion buddiol yn cael eu colli a rhai eraill negyddol yn datblygu. Bellach mae awydd i ddiogelu’r gwenyn tywyll Ewropeaidd cynhenid, yr Apis Mellifera Mellifera. Cytunir mae’r wenynen hon yw’r un fwyaf addas i’n hamgylchedd ni ac felly rydym yn argymell i chi gael eich gwenyn yn lleol, yn ddelfrydol trwy eich cymdeithas cadw gwenyn leol.
Fel arfer bydd gwenynwr yn cychwyn â chnewyllyn, sef nythfa fach â brenhines newydd sy'n yn dodwy. Dylid sicrhau nad oes unrhyw afiechydon ymysg y gwenyn. Fel rheol mae’r gwenyn hyn ar gael rhwng Mai a Mehefin. Fel arall gellwch brynu nythfa neu haid lawn.
Gellir cadw gwenyn mewn amryw o leoedd, gan gynnwys gerddi, yn y to neu gornel cae. Os nad oes gennych le addas adref gall eich cymdeithas leol roi cymorth i chi ddod o hyd i wenynfa mewn man arall.
Mae’r Cwch Gwenyn Cenedlaethol yn cynnwys:
Mae’r blychau dodwy a siwper yn cynnwys hyd at 10 neu 11 o fframiau pren. Mae’r rhain yn dal haenau tenau o gwyr mewn ffurf cell (y sylfaen). Mae’r gwenyn yn cynhyrchu ac yn adeiladu eu celloedd cwyr ar y sylfaen hwn ac mae’r frenhines yn dodwy ei hwyau yn fframiau y blwch dodwy. Mae’r gwenyn gweithio yn casglu’r neithdar o’r siwperau uwchben y gril atal y frenhines.
Fedra i gadw gwenyn? Wrth gwrs y medrwch!
Byw yn y ddinas neu yng nghefn gwlad – does dim problem. Nid oes angen gardd arnoch oherwydd gellwch rentu cwch gwenyn mewn alotiadau gwenyn arbennig! Gall eich cymdeithas cadw gwenyn leol roi cymorth i chi ynglŷn â phwy fyddai’n fodlon cael gwenyn ar eu tir a chroesawu gwenynwr.
Fel gydag unrhyw weithgaredd hamdden, mae angen i chi wneud tipyn o ymchwil yn gyntaf. Ewch draw i Ganolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymru; cysylltwch â’ch cymdeithas leol; neu ewch ar gwrs i rai dibrofiad, neu byddwch yn wirfoddolwr. Mae mwy nag un ffordd i roi cychwyn arni. Un rhybudd, wedi i chi gychwyn fyddwch chi ddim am roi’r gorau iddi, ac fe ddysgwch gymaint o bethau newydd!
Wrth gadw gwenyn byddwch yn:
Allwn i gadw gwenyn cyfarwyddiadau yma ein taflen ddefnyddiol i gael mwy o wybodaeth ac i ddechrau arni (ffeil pdf sydd angen Adobe Reader).
Os nad ydych am weithio gyda gwenyn, gellwch barhau i helpu drwy sicrhau bod eich gardd neu eich alotiad yn wenyn-gyfeillgar.