Mae'r Hysbysiad hwn (ynghyd ag unrhyw ddogfennau eraill y cyfeiriwn ato ynddo) yn nodi'r sail y bydd unrhyw ddata personol a gasglwn gennych chi neu y byddwch yn eu darparu i ni yn cael eu prosesu gennym ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus i ddeall ein safbwyntiau ac arferion ynglŷn â'ch data personol a sut y byddwn yn eu trin. Mae hwn yn gyfieithiad i’r Gymraeg o’r Hysbysiad ynghylch Preifatrwydd: os bydd unrhyw anghysonderau, y fersiwn wreiddiol (Saesneg) fydd yr un derfynol. Daw'r hysbysiad hwn i rym ar 9 Mai 2018.
Mae “ni” yn golygu Canolfan Genedlaethol Cadw Gwenyn Cymru CIC (neu NBCW, neu National Beekeeping Centre for Wales CIC). Os hoffech chi gysylltu â ni, e-bostiwch info@beeswales.co.uk, ffoniwch ni ar 01492 651106, neu ysgrifennwch atom ni yn NBCW, Canolfan Bwyd Cymru Bodnant, Fferm Ffwrnais, Tal-y-Cafn, Conwy LL28 5RP.
Drwy gysylltu â ni, gan ddefnyddio ein gwasanaethau, neu ymweld â'n gwefan, sy'n eiddo i ni ac yn cael ei rheoli gennym ni ("ein gwefan"), rydych chi'n derbyn ac yn cydsynio â'r arferion a ddisgrifir yn yr Hysbysiad hwn oni bai y byddwch chi yn ein hysbysu fel arall.
Efallai byddwn ni’n casglu ac yn prosesu’r data dilynol amdanoch chi:
Efallai y byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni amdanoch chi trwy lenwi ffurflenni ar ein gwefan, trwy gyfathrebu â ni dros y ffôn, drwy'r post neu drwy'r e-bost, yn bersonol yn ein Canolfan Ymwelwyr, neu mewn digwyddiad. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a roddwch os byddwch chi'n tanysgrifio i'n gwasanaethau neu yn defnyddio swyddogaethau cyfryngau cymdeithasol eraill ar ein gwefan, yn dod yn aelod, yn cymryd tanysgrifiad Hive Aid, cofrestru ar gyfer un o'n cyrsiau, cyfranogi mewn cystadleuaeth, cynnig arbennig neu arolwg, darparu nwyddau neu wasanaethau i ni, gwirfoddoli i ni, ac os byddwch chi’n ein hysbysu am broblem â'n gwefan. Gallai'r wybodaeth a roddwch ni gynnwys eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a'ch rhif ffôn. At ddibenion penodol (fel arfer dim ond os byddwch chi'n mynychu cwrs neu ddigwyddiad gyda ni), efallai y byddwn hefyd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol megis gofynion dietegol, cyflyrau meddygol ac alergeddau, a manylion perthynas agosaf / rhywun y gellir cysylltu ag ef neu hi mewn argyfwng. Os byddwch chi'n prynu aelodaeth, Hive Aid, neu gynnyrch arall gennym ni ar ran rhywun arall, efallai y byddwch hefyd yn rhoi eu manylion i ni: cofiwch sicrhau eu bod yn cydsynio y gallwch chi wneud hyn.
Os byddwch chi'n talu am aelodaeth, Hive Aid, archebu cwrs neu gynnyrch arall trwy ein gwefan, bydd y taliad yn cael ei brosesu gan PayPal neu Worldpay. Sicrhewch eich bod yn darllen ac yn derbyn eu telerau ac amodau cyn defnyddio'r broses dalu.
Cedwir manylion eich trafodion ariannol gyda ni yn unol ag arfer cyfrifyddu arferol, ac fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith.
O ran eich defnydd o’n gwefan, efallai y byddwn ni’n casglu’r wybodaeth ddilynol yn awtomatig:gwybodaeth dechnegol, yn cynnwys y cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP) a ddefnyddir i gysylltu eich cyfrifiadur â’r rhyngrwyd, eich manylion mewngofnodi, math o borwr a’r fersiwn, gosodiad parth amser, mathau a fersiynau ategion y porwr, y system gweithredu a’r platfform; data am eich ymweliad, yn cynnwys ffrwd cliciau llawn eich Lleolydd Adnoddau Unffurf i, trwy ac o’n gwefan (yn cynnwys dyddiad ac amser); cynhyrchion y gwnaethoch chi edrych arnynt neu chwilio amdanynt; amseroedd ymateb tudalennau, gwallau lawrlwytho, hyd ymweliadau â thudalennau, gwybodaeth ynghylch rhyngweithio â thudalennau (megis sgrolio, clicio a phethau y symudir y llygoden drostynt), a dulliau a ddefnyddir i bori oddi wrth y dudalen . Cesglir gwybodaeth tracio gan ddefnyddio Google Analytics, a chesglir gwybodaeth am bethau a brynir gan ddefnyddio NopCommerce.
Gall ein gwefan, o bryd i'w gilydd, gynnwys dolenni i wefannau trydydd parti ac oddi yno. Os byddwch chi'n dilyn dolen i unrhyw un o'r gwefannau hyn, nodwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nad ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb nac atebolrwydd am y polisïau hyn. Gwiriwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i'r gwefannau hyn.
Fel arfer ni fyddwn yn derbyn gwybodaeth amdanoch chi gan drydydd partïon, oni bai eich bod yn caniatáu i drydydd parti brynu aelodaeth, tanysgrifiad Hive Aid neu archebu cwrs, neu brynu cynnyrch gennym ni ar eich rhan. Os bydd hyn yn digwydd heb eich caniatâd, cysylltwch â ni.
Rydym yn gweithio gyda thrydydd partïon (gan gynnwys, er enghraifft, isgontractwyr mewn gwasanaethau technegol, talu a darparu a sefydliadau gwirfoddoli) a gallwn dderbyn gwybodaeth amdanoch chi ganddynt hwy.
Efallai y byddwn hefyd yn cael gwybodaeth amdanoch chi o gwcis.
Rydym yn defnyddio gwybodaeth a gedwir amdanoch chi yn y ffyrdd canlynol:
Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon i roi gwybod i chi am newidiadau i'n gwasanaeth a byddwn yn sicrhau bod cynnwys o'n gwefan yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol i chi ac ar gyfer eich teclyn.
Pan fydd ein gwasanaethau wedi'u his-gontractio i drydydd parti, e.e. cyrsiau a ddarperir gan hyfforddwr annibynnol, efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth gyfyngedig â hwy, at ddiben darparu'r gwasanaeth a ddewiswyd gennych yn unig.
Nid fyddwn yn rhannu'ch gwybodaeth ag asiantaethau marchnata neu hysbysebu, gwasanaethau dadansoddi data neu asiantaethau tebyg.
Mae enghreifftiau o sut y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon yn cynnwys (ond nid yw'n gyfyngedig) i: weinyddu ein gwasanaethau, ac ar gyfer gweithrediadau mewnol, gan gynnwys datrys problemau, dadansoddi data, profi, ymchwil, ystadegau ac arolygon; gwella ein gwefan i sicrhau bod y cynnwys yn cael ei gyflwyno yn y modd mwyaf effeithiol i chi ac ar gyfer eich teclyn; eich galluogi i gyfranogi yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaethau, pan fyddwch chi'n dewis gwneud hynny; cadw ein gwasanaethau, safleoedd a’n hadeilad yn ddiogel; mesur neu ddeall effeithiolrwydd ein gwasanaeth.
Efallai y byddwn yn cyfuno'r wybodaeth hon â'r wybodaeth a roddwch i ni a gwybodaeth a gasglwn amdanoch chi. Efallai y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon a'r wybodaeth gyfunol at y dibenion a nodir uchod (yn dibynnu ar y mathau o wybodaeth a dderbyniwn).
Rydych yn cytuno y gallwn rannu eich gwybodaeth bersonol â’r canlynol:
Rydym yn defnyddio staff cyflogedig, hunangyflogedig a gwirfoddol, sydd oll yn rhwym wrth delerau'r Hysbysiad hwn ynghylch Preifatrwydd. Rydym hefyd yn defnyddio proseswyr sy'n drydydd partïon gan gynnwys y canlynol, ac efallai y byddwn yn rhannu'ch gwybodaeth â nhw:
Mae gan y trydydd partïon hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain.
Byddwn hefyd yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd parti os byddwn o dan ddyletswydd i ddatgelu neu rannu eich data personol i gydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, neu er mwyn gorfodi neu ddefnyddio ein telerau defnyddio neu delerau ac amodau cyflenwi gwasanaethau a chytundebau eraill; neu i amddiffyn hawliau, eiddo, neu ein diogelwch, diogelwch ein cwsmeriaid, neu ddiogelwch pobl eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth âchwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion diogelu rhag twyll a lleihau risg credyd.
Ni fyddwn yn trosglwyddo'r data y byddwn yn eu casglu gennych y tu allan i'r ardal sy’n cael ei chwmpasu gan ddeddfwriaeth diogelu data'r Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth gyfatebol yr Undeb Ewropeaidd / Ardal Economaidd Ewrop. Drwy roi eich data personol i ni, rydych chi'n cytuno y gellir eu trosglwyddo, storio a / neu brosesu fel y bo’n ofynnol. Byddwn yn cymryd pob cam sy'n rhesymol angenrheidiol i sicrhau bod eich data yn cael eu trim yn ddiogel ac yn unol â'r Rhybudd Preifatrwydd hwn.
Bydd holl wybodaeth a roddwch i ni yn cael ei storio ar ein gweinyddwyr diogel neu ar weinyddwyr diogel sy'n cael eu gweithredu gan drydydd parti. Os byddwn ni wedi rhoi cyfrinair i chi (neu os byddwch chi wedi dewis cyfrinair) sy'n eich galluogi i gael mynediad i rannau penodol o'n gwefan, byddwch chi'n gyfrifol am gadw'r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn ichi beidio â rhannu cyfrinair gydag unrhyw un.
Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth drwy'r rhyngrwyd yn gwbl ddiogel. Er y gwnawn ein gorau glas i ddiogelu eich data personol, ni allwn warantu diogelwch eich data a drosglwyddir i'n gwefan; byddwch yn trosglwyddo unrhyw ddata ar eich menter eich hun. Pan fyddwn ni wedi cael eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau caeth a nodweddion diogelwch i geisio atal mynediad heb ganiatâd. Mae cyfathrebu trwy e-bost hefyd yn destun polisi preifatrwydd eich darparwr gwasanaeth eich hun.
Ni fyddwn yn storio'ch data yn hirach na’r hyn sy’n angenrheidiol. Ni chaiff data nad yw'n ofynnol am resymau cytundebol na chyfreithiol eu cadw am fwy na blwyddyn ar ôl pryniannau unwaith ac am byth neu phan fydd aelodaeth neu danysgrifiadau blynyddol wedi dod i ben. Pan gesglir gwybodaeth sensitif (e.e. cyflyrau meddygol, alergedd gwenynen, alergeddau bwyd, ac ati) mewn cysylltiad â digwyddiad penodol, caiff ei ddinistrio ar ôl diwedd y digwyddiad.
Gellir dileu eich data o'n cofnodion ar gais ar unrhyw adeg, yn unol â'ch hawliau cyfreithiol.
Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Bydd ein m marchnata yn digwydd trwy ein gwefan a'n cylchlythyrau unig, fel y gallwch chi arfer eich hawl i atal prosesu o'r fath trwy beidio defnyddio ein gwefan a chanslo eich tanysgrifiad o'r cylchlythyr (naill ai trwy ddefnyddio'r ddolen canslo tanysgrifiad, neu drwy gysylltu â ni).
Mae gennych yr hawl (yn amodol ar rai cyfyngiadau) i ofyn am unrhyw un o'r canlynol; gofynnwn i chi anfon ceisiadau o'r fath gan ddefnyddio ein manylion cysylltu a nodir uchod:
Caiff unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i'n Hysbysiad ynghylch Preifatrwydd yn y dyfodol eu cyhoeddi ar ein gwefan, a, lle bo hynny'n briodol, eu hysbysu chi trwy e-bost. Gwiriwch ein gwefan yn rheolaidd i weld unrhyw ddiweddariadau neu newidiadau i’n Hysbysiad ynghylch Preifatrwydd.