Ble bynnag rydych chi’n byw, os oes gennych chi le am ardd neu ychydig o botiau blodau, gallwch chi helpu gwenyn trwy fod yn arddwr sy’n gyfeillgar i wenyn. Osgowch y defnydd o blaladdwyr yn eich gardd a gadewch i chwyn dyfu mewn un cornel - wedi’r cwbl, mae gan bob un ohonom ni gornel chwyn! Dyma eich esgus i adael y gornel fel y mae a gadael i’r gwenyn chwilota ynddi - fe gewch eich synnu gan nifer y gwenyn a welwch chi yno. Darganfyddwch pa blanhigion y mae gwenyn yn eu hoffi fwyaf a gwnewch eich gorau i blannu pethau sy’n blodeuo yn ystod eithafion y tymhorau.